Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 19 Medi 2016 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 14.05 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2016(4) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Dai Lloyd AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Gwion Evans, Pennaeth y Swyddfa Breifat Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiad o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 11 Gorffennaf yn gofnod cywir.
2 Strategaeth Cyllideb y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad
Trafododd y Comisiynwyr ddogfen strategaeth y gyllideb ddrafft a baratowyd yn unol â strategaeth newydd y Comisiwn ac a oedd yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan y Comisiwn yn ystod yr haf.
Roedd y ddogfen yn amlinellu'r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18 yn ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd at ddiwedd y Pumed Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr nifer o agweddau ar y gyllideb yn fanwl. Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r Comisiynwyr yn credu bod angen newid mawr yn y ffordd rydym yn cynhyrchu, rheoli ac yn defnyddio gwybodaeth am fusnes y Cynulliad os yw’r Cynulliad yn mynd i gael ei ystyried yn senedd ddigidol o’r radd flaenaf sy’n agored, yn gynhwysol ac yn hawdd ymwneud â hi, gan arwain at well cyfreithiau a gwell craffu. Bydd y Comisiwn yn gweithio i wella'r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â'r Cynulliad a sut y darperir gwasanaethau i'r Aelodau.
Bydd angen strategaeth ar gyfer y gyllideb sy'n darparu cynnydd cymedrol yn lefelau adnoddau cyffredinol y Comisiwn er mwyn i'r Comisiwn allu parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i Aelodau'r Cynulliad. Gallai'r cynlluniau ariannol tymor hwy fod yn destun newid o ganlyniad i angen i ymateb i'r heriau sy'n dod i'r amlwg dros y pedair blynedd nesaf, ond, ar sail asesiadau cyfredol, mae Comisiynwyr yn ystyried bod y cynigion wedi'u gosod ar lefelau sy'n deg ac yn ddarbodus.
Cytunodd y Comisiwn y dylai'r gyllideb ddrafft gael ei gosod ar 30 Medi. Disgwylir i'r Pwyllgor Cyllid graffu arni ar 5 Hydref. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Cynnig y Gyllideb wedi ei gynllunio ar gyfer 16 Tachwedd.
3 Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, cytunwyd i ystyried cwmpas y gwaith a'r costau a fyddai'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad, yn y disgwyliad y bydd Bil Cymru 2016 yn rhoi cymhwysedd cyfreithiol i'r Cynulliad wneud hynny.
Wedi ystyried opsiynau ar gyfer ymgynghori a materion cysylltiedig, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gwaith gael ei wneud i ddatblygu papur ymgynghori, gyda'r bwriad o fod yn barod i ymgymryd â'r ymgynghoriad ar adeg briodol yn y dyfodol rhagweladwy, gan ystyried hynt Bil Cymru yn San Steffan.
Cytunodd y Comisiwn hefyd mai'r Llywydd fyddai'r Aelod sy'n gyfrifol am unrhyw Fil y Comisiwn ar y mater hwn.
4 Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol
Trafododd y Comisiynwyr newidiadau arfaethedig i'r adroddiad DPA. Cafodd y DPA presennol eu datblygu yn 2013 a chawsant eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion adrodd ar berfformiad y Comisiwn a'u bod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Mae'r cynigion yn newid sut y mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu cyflwyno i gynnwys nifer o ddangosyddion pennawd ac o dan y rhain, mae dangosyddion penodol gyda thargedau. Mae'r trefniant pennawd/dangosydd hwn yn caniatáu i'r adroddiad newid dros amser, tra'n parhau i sicrhau cysondeb a'r gallu i ddangos set o ddata cymharol o'r prif ddangosyddion.
Cytunodd y Comisiynwyr bod y fformat newydd yn hawdd i'w ddeall ac yn haws i'w ddefnyddio, a chafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y dyfodol.
5 Papur i'w nodi: Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016
Cafodd yr Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016 ei nodi, a chaiff ei gyhoeddi ar y wefan a'i anfon at y Pwyllgor Cyllid er gwybodaeth.
6 Papur i'w nodi: Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 11 Gorffennaf
Nodwyd cofnodion cyfarfod ACARAC ar 11 Gorffennaf.
7 Unrhyw fater arall
Nododd y Llywydd fod y polisi ar werthu alcohol ar yr Ystâd wedi'i godi gyda hi. Teimlai Comisiynwyr nad yw yfed alcohol tra'n gweithio yn briodol, a gallai greu risgiau i unigolion. Cytunwyd felly yn unfrydol y dylai'r polisi presennol gael ei gadw.